S4C Lleol

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar bartneriaeth beilot newydd gyda S4C.

Mae’r bartneriaeth yn bennod newydd o stori TeliMôn. Bydd nid yn unig yn helpu i ehangu ein cynhyrchiad rhaglenni a’n cynulleidfa, ond bydd hefyd yn fodd i barhau i feithrin talent leol, darparu cefnogaeth economaidd i weithwyr llawrydd a dod â phobl Ynys Môn yn agosach at ei gilydd fel cymuned.

Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i fod y sefydliad cyntaf i ymgymryd â phartneriaeth a allai, yn ein barn ni, helpu i ddatblygu diwydiant y cyfryngau yng Nghymru i mewn i oes newydd.

Mae S4C yn bartner perffaith i TeliMôn gan ein bod ni’n rhannu’r un gwerthoedd a’r un farn optimistaidd o’r diwydiant. Rydym yn falch o hyrwyddo a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg, gan helpu dysgwyr a rhoi hyder i bobl o bob lefel o’r Gymraeg ddefnyddio’r iaith.

We’re delighted to be working on a new pilot partnership with S4C.

The partnership will enable us to expand our programme production, work with more local talent and bring the people of Anglesey closer together as a community.

S4C is the perfect partner for TeliMôn in this new venture – we share the same values and the same optimistic view of the creative talent in Wales. We will be providing opportunities for young people to work with us to learn new skills and develop their portfolio. We are proud to promote and strengthen the use of the Welsh language, helping learners and giving people of all levels of Welsh the confidence to use the language. And we are proud to use our programming to showcase the best of Anglesey, its communities and its people.

Dyma rhai o’r fideos wedi’u cynhyrchu o dan y peilot hyd yn hyn:

Here are some of the videos produced under the pilot so far:

Santes Dwynwen ac Ynys y Cariadon

Camu’n ôl – Llannerch-y-medd

‘Mlaen a ni – Bragdy Cybi

STEPAN DRWS – Benllech gyda Deio
Crwydro Biwmares
Llannau Môn
Mlaen a Ni: Sion Emlyn Davies
Mlaen a Ni: Sara Mai
Traeth Llanddona
Mynydd Twr
CIBABIO
Crwydro a Llowcio gyda Llion
Ein Hanes Ni
Gan y Môr